4 Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn,ond mae byw yn iawn yn achub bywyd.
5 Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo,ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni.
6 Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achubond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau.
7 Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaithdydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach.
8 Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion,a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le!
9 Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau,ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.
10 Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.