9 Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau,ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.
10 Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.
11 Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio,ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.
12 Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill;mae'r person call yn cadw'n dawel.
13 Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach,ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.
14 Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu,mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.
15 Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl;gwell bod yn saff a gwrthod.