1 Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth;ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl!
2 Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD,ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo.
3 Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd,ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn.
4 Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin,ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn.
5 Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda,ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.
6 Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd,ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.