10 Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid,ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!
11 Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.
12 Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni;ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd.
13 Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw,ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion.
14 Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud;ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.
15 Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau;ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.
16 Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio,ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.