17 Mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond tyst celwyddog yn twyllo.
18 Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu,ond mae geiriau doeth yn iacháu.
19 Mae geiriau gwir yn aros bob amser,ond celwydd yn para ond am ennyd.
20 Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg;ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.
21 Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed,ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.
22 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd,ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.
23 Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod,ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.