20 Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg;ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.
21 Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed,ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.
22 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd,ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.
23 Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod,ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.
24 Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr;bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.
25 Mae pryder yn gallu llethu rhywun,ond mae gair caredig yn codi calon.
26 Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind,ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.