24 Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr;bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.
25 Mae pryder yn gallu llethu rhywun,ond mae gair caredig yn codi calon.
26 Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind,ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.
27 Does gan rywun diog byth helfa i'w rostio,ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr.
28 Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd,ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth.