3 Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd,ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn.
4 Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin,ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn.
5 Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda,ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.
6 Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd,ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.
7 Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu,ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn.
8 Mae person deallus yn cael enw da;ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu.
9 Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hunna chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd.