1 Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro,ond dydy plant sy'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd.
2 Mae canlyniadau da i eiriau caredig,ond dydy'r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais.
3 Mae'r person sy'n ffrwyno'i dafod yn diogelu ei hun,ond yr un sy'n methu cau ei geg yn dinistrio ei hun.
4 Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim;ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.