21 Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid,ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.
22 Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau,ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.
23 Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd;ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd.
24 Mae'r sawl sy'n atal y wialen yn casáu ei blentyn;mae'r un sy'n ei garu yn ei ddisgyblu o'r dechrau cyntaf.