8 Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth,ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.
9 Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar;ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
10 Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion;mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.
11 Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu'n hawdd,ond bydd cyfoeth sydd wedi ei gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.
12 Mae gobaith sy'n cael ei ohirio yn torri'r galon,ond mae dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd.
13 Bydd pethau'n mynd yn ddrwg i'r un sy'n gwrthod cyngor;ond bydd y person sy'n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo.
14 Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn ei gadw rhag syrthio i faglau marwolaeth.