1 Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref,ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun.
2 Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD;ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu.
3 Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn.
4 Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.
5 Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.