10 Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi,a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd.
11 Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio,ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo.
12 Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.
13 Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd.
14 Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd;ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.
15 Mae'r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth;ond mae'r person call yn fwy gofalus.
16 Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.