13 Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd.
14 Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd;ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.
15 Mae'r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth;ond mae'r person call yn fwy gofalus.
16 Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.
17 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl;ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau gyfrwys.
18 Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb,ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.
19 Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da,a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn.