16 Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.
17 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl;ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau gyfrwys.
18 Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb,ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.
19 Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da,a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn.
20 Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu,ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau.
21 Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu;ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen.
22 Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll?Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.