21 Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu;ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen.
22 Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll?Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.
23 Mae elw i bob gwaith caled,ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi.
24 Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron;ond ffolineb ydy torch ffyliaid.
25 Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau;ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr.
26 Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi hyder,ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.
27 Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.