22 Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll?Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.
23 Mae elw i bob gwaith caled,ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi.
24 Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron;ond ffolineb ydy torch ffyliaid.
25 Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau;ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr.
26 Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi hyder,ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.
27 Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.
28 Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd;ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb.