4 Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.
5 Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.
6 Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd.
7 Cadw draw o gwmni person ffôl,achos wnei di ddysgu dim ganddo.
8 Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd,ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.
9 Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd,ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw.
10 Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi,a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd.