1 Mae ateb caredig yn tawelu tymer;ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.
2 Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth,ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.
3 Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth,mae'n gwylio'r drwg a'r da.
4 Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd,ond mae dweud celwydd yn torri calon.
5 Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad,ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
6 Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn,ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
7 Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth;ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.