12 Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro;dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.
13 Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb;ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.
14 Mae person call eisiau dysgu mwy;ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.
15 Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled,ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.
16 Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDDyn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.
17 Mae platiaid o lysiau ble mae cariadyn well na gwledd o gig eidion â chasineb.
18 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt;ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.