18 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt;ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.
19 Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri,ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.
20 Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam.
21 Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens;ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.
22 Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori,ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.
23 Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus,ac mor dda ydy gair yn ei bryd!
24 Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth,ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod.