24 Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth,ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod.
25 Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ y balch,ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel.
26 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg,ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.
27 Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu;ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw.
28 Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
29 Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg,ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
30 Mae gwên yn llonni'r galon;a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.