28 Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
29 Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg,ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
30 Mae gwên yn llonni'r galon;a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.
31 Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiolyn byw yng nghwmni'r doeth.
32 Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun;ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.
33 Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth;a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.