5 Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad,ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
6 Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn,ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
7 Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth;ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.
8 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg,ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.
9 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg,ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn.
10 Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym;bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.
11 Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn,felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!