10 Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doethna chwipio ffŵl gant o weithiau.
11 Dydy rhywun drwg ond eisiau gwrthryfela;felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.
12 Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawonna ffŵl yn siarad nonsens.
13 Fydd trafferthion byth yn gadael tŷrhywun sy'n talu drwg am dda.
14 Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae;gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
15 Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD –gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16 Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?