13 Fydd trafferthion byth yn gadael tŷrhywun sy'n talu drwg am dda.
14 Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae;gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
15 Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD –gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16 Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17 Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18 Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19 Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.