17 Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18 Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19 Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20 Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21 Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22 Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23 Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.