18 Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19 Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20 Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21 Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22 Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23 Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.
24 Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.