2 Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd,a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.
3 Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,ond yr ARGLWYDD sy'n profi'r galon.
4 Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg;a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.
5 Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr;a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.
6 Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau,a balchder plant ydy eu rhieni.
7 Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl;llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.
8 Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig;ble bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.