21 Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22 Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23 Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.
24 Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
25 Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dada dolur calon i'w fam.
26 Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn;byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.
27 Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin;a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.