1 Mae'n well bod yn dlawd ac yn onestnac yn ffŵl sy'n dweud celwydd.
2 Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da;mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd.
3 Ffolineb pobl sy'n difetha eu bywydau,ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.
4 Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau,ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno.
5 Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi;fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc.