10 Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl;llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr.
11 Mae rhywun call yn rheoli ei dymer;mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn.
12 Mae brenin dig fel llew yn rhuo;ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13 Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad;a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid.
14 Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth.
15 Mae diogi yn achosi trwmgwsg;bydd y person diog yn llwgu.
16 Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw;ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.