18 Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo,ond paid colli dy limpyn yn llwyr.
19 Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris;os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith.
20 Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd,a byddi'n ddoeth yn y diwedd.
21 Mae gan bobl bob math o gynlluniau,ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni.
22 Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person;gwell bod yn dlawd na dweud celwydd.
23 Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd;mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg.
24 Mae'r diogyn yn estyn am fwyd,ond yn rhy ddiog i'w godi at ei geg!