1 Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud,ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn;
2 Os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb,a cheisio deall yn iawn;
3 Os byddi di'n gofyn am gyngor doeth,ac yn awyddus i ddeall yn iawn;
4 Os byddi'n ceisio doethineb fel arianac yn chwilio amdani fel am drysor wedi ei guddio,
5 yna byddi di'n deall sut i barchu'r ARGLWYDDa byddi'n dod i wybod am Dduw.
6 Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb;beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall.
7 Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn –ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest.