12 Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg,a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd –
13 y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonesti ddilyn llwybrau tywyll.
14 Maen nhw wrth eu boddau yn gwneud drwgac yn mwynhau twyllo –
15 Pobl anonest ydyn nhw,ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
16 Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
17 yr un sydd wedi gadael ei gŵr,a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
18 Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw.