12 Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld –yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.
13 Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.
14 Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,”ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.
15 Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd;mae geiriau doeth fel gem werthfawr.
16 Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.
17 Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.
18 Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;ewch i ryfel gyda strategaeth glir.