22 Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!”Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di.
23 Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD;dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.
24 Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd;sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen?
25 Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll,a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.
26 Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da,ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw.
27 Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD,yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.
28 Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin;a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.