27 Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD,yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.
28 Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin;a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.
29 Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc,ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed.
30 Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg,ac yn delio gyda'r person y tu mewn.