7 Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest,mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr.
8 Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnuyn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.
9 Oes unrhyw un yn gallu dweud,“Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân;dw i'n hollol lân a heb bechod”?
10 Mae twyllo wrth bwyso a mesuryn rhywbeth sy'n gas gan yr ARGLWYDD.
11 Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwynyn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio.
12 Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld –yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.
13 Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.