10 Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg,ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.
11 Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers;ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.
12 Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg;bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.
13 Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd,bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.
14 Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid,a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.
15 Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn,ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.
16 Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawnyn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.