13 Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd,bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.
14 Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid,a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.
15 Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn,ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.
16 Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawnyn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.
17 Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd;dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.
18 Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn;a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.
19 Mae'n well byw mewn tir anialna gorfod diodde gwraig gecrus a blin.