1 Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr,gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn;
2 dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
3 Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4 Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;bydd yn ddigon call i ymatal.
5 Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6 Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion.
7 Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.