18 Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd,a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19 Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth;penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20 Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed,ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.
21 Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22 Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23 Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24 Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawnbydd ei dad mor hapus;mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.