21 Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22 Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23 Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24 Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawnbydd ei dad mor hapus;mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
25 Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26 Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27 Mae putain fel pwll dwfn;a gwraig anfoesol fel pydew cul.