25 Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26 Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27 Mae putain fel pwll dwfn;a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28 Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29 Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?Pwy sy'n cael damweiniau diangen?Pwy sydd â llygaid cochion?
30 Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.
31 Paid llygadu'r gwin coch ynasy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydrac yn mynd i lawr mor dda.