28 Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29 Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?Pwy sy'n cael damweiniau diangen?Pwy sydd â llygaid cochion?
30 Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.
31 Paid llygadu'r gwin coch ynasy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydrac yn mynd i lawr mor dda.
32 Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd;bydd fel brathiad gwiber.
33 Byddi'n gweld pethau rhyfedd,a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
34 Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr,neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.