3 Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4 Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;bydd yn ddigon call i ymatal.
5 Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6 Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion.
7 Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.
8 Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi ei fwyta,ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
9 Paid dweud gormod wrth ffŵl,fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.