1 Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg,na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw.
2 Dŷn nhw'n meddwl am ddim byd ond traisa sut i wneud drwg i bobl eraill.
3 Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ,a deall i osod seiliau cadarn iddo.
4 Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloeddgyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.
5 Mae person doeth yn gryf,a person deallus yn ddylanwadol.