13 Fy mab, bwyta fêl – mae'n dda i ti;ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.
14 A'r un modd mae doethineb yn dda i ti.Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd;a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
15 Paid llechu fel lleidr tu allan i gartre dyn da;a paid torri i mewn i'w dŷ.
16 Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,ond byddan nhw'n codi ar eu traed;tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.
17 Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,
18 rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.
19 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –