16 Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,ond byddan nhw'n codi ar eu traed;tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.
17 Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,
18 rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.
19 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –
20 does dim dyfodol iddyn nhw.Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
21 Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.
22 Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?